|
Mae Prosiect Cynhaeaf Newydd yn annog
cynhyrchwyr a defnyddwyr ym Mhowys i gynnig syniadau
arloesol i ychwanegu gwerth at fwyd lleol. Mae Prosiect
Cyrchu Arloesedd yn darparu'r cyfrwng i ddatblygu is-brosiectau
ar raddfa fach nad yw rhaglenni gwaith sy'n bodoli ar
gyfer Perllannau Powys neu Amaethyddiaeth a Gefnogir
gan y Gymuned yn eu cwmpasu.
Mae nifer o is-brosiectau'n cael eu
cefnogi ar hyn o bryd trwy elfen Cyrchu Arloesedd. Mae
yna is-brosiectau ar gyfer treialon cnydau newydd, ymchwilio
i ffyrdd newydd o fanteisio ar adnoddau ym Mhowys, sefydlu
marchnadoedd newydd ar gyfer cynnyrch a chynyddu ymwybyddiaeth
o fwyd lleol. Ymhlith yr is-brosiectau hyn mae:
Mae
Ŵyn Mynydd Cymreig yn frd defaid bach, cryf sydd
wedi bod yn pori llethrau bryniau Cwm Elan ers canrifoedd.
Y dull traddodiadol o gynhyrchu oedd cadw'r llydnod
(gwrywod wedi'u disbaddu) ar y mynydd i besgi am bedair
blynedd. Ni fu archfarchnadoedd yn awyddus i werthu'r
cig dafad yma, felly fel arfer bydd yn cael ei allforio
i dde Ewrop. Bydd Prosiect Cig Dafad Cwm Elan yn cyflwyno
prawf i weld a oes marchnad bosib yn bodoli ar gyfer
llydnod mynydd 2-3 mlwydd oed mwy brau. Bydd y prosiect
yn gwneud ymchwil farchnata, yn datblygu cynnyrch cig
dafad trwy fwg ac yn cynhyrchu taflenni ryseitiau.
Mae
llus yn ffrwyth hyblyg a mwyfwy poblogaidd. Mae astudiaethau
diweddar wedi pwysleisio'r buddiannau posib i iechyd,
fel gostwng lefelau colesterol. Mae'r farchnad yn ehangu'n
gyflym ond ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o lus sy'n
cael eu gwerthu yn y DU yn cael eu mewnforio. Mae angen
pridd asidig a lleithder pridd gwarantedig ar lus i
ffynnu. Mae Prosiect Llus Powys yn archwilio'r posibilrwydd
o amaethu'r cnwd newydd yma a sefydlu marchnad ar gyfer
llus sy'n cael eu tyfu yn lleol. Bydd y cynllun cnwd
llus arbrofol ar gyfer y prosiect yma'n ymchwilio i'r
amrywiaethau a'r amodau tyfu sydd fwyaf priodol i Bowys.
Mae yna ddiddordeb cynyddol mewn
cig ac wyau buarth o ansawdd uchel sydd wedi'u cynhyrchu
mewn systemau sy'n caniatáu i anifeiliaid ymddwyn yn
naturiol. Mae moch ac ieir wedi esblygu mewn ecosystemau
coetir ac maen nhw'n ddewis naturiol ar gyfer rheoli
coetiroedd mewn modd cynaliadwy. Mae'r astudiaeth dichonolrwydd
yma'n ymchwilio i gynaliadwyedd cynhyrchu moch a dofednod
coetir ym Mhowys, ac i alw'r farchnad leol am eu cig
a'u wyau.
|