Nod
y prosiect yma yw cynyddu ymwybyddiaeth o gynnyrch sy'n
cael ei dyfu'n lleol a datblygu cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr
bwyd lleol a defnyddwyr ym Mhowys. Fe fydd y prosiect
yn annog cynhyrchu cynaliadwy ac yn dod o hyd i farchnadoedd
lleol newydd ar gyfer ffrwythau a llysiau. Ymhlith partneriaid
posib y prosiect mae teuluoedd sy'n ffermio, busnesau
bach a mentrau cymdeithasol neu gymunedol.
Y syniad gwreiddiol y tu cefn i Amaethyddiaeth
a Gefnogir gan y Gymuned yw y bydd y defnyddiwr yn llunio
perthynas â'i ffermwr lleol i gael cyflenwad blwyddyn
o ffrwythau, llysiau, wyau, mêl, cig, ac ati. Bydd hyn
yn caniatáu i'r ffermwr gael incwm gwarantedig ymlaen
llaw i'r tymor tyfu, a sail cwsmeriaid lleol mae'n eu
hadnabod.
Cyn 2004, bu Glasu yn helpu i sefydlu
saith cynllun blychau llysiau ledled Powys fel rhan
o brosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned.
Bu'r rhain o help i roi hwb i economïau lleol, i gwtogi
ar filltiroedd cludo bwyd ac i helpu defnyddwyr i ddod
yn gyfarwydd unwaith eto â'r tymhorau tyfu.
Ymhlith amcanion prosiect AGG bellach
mae:
- cefnogaeth dechnegol ar gyfer tyfwyr
i reoli cynlluniau blychau;
- ymchwil i gynhyrchu garddwriaethol;
- datblygiad grŵp cynhyrchwyr
Powys;
- cyrsiau hyfforddi i ddatblygu sgiliau
mewn cadw hadau, cynaeafu a storio ffrwythau a llysiau;
- Diwrnodau Agored, deunyddiau cyhoeddusrwydd
ac arddangosiadau coginio mewn Marchnadoedd Ffermwyr
a Gwyliau Bwyd.
|