Nod y prosiect yma yw hybu perllannau ym Mhowys a chefnogi tyfwyr i ychwanegu gwerth at ffrwythau perllan lleol. Mae Prosiect Perllannau Powys yn dwyn ynghyd partneriaid o amrywiaeth eang o sefydliadau sydd â diddordeb yng nghadwraeth perllannau yn y sir, gan gynnwys Rhwydwaith Afalau'r Gororau, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Powys a pherchnogion perllannau preifat.
Mae gwaith ymchwil gychwynnol i'r posibiliadau yn dangos bod yna botensial anferth i ddatblygu perllannau ym Mhowys ac i ychwanegu gwerth at adnodd bwyd a allai, fel arall, fynd yn wastraff, fel afalau cwymp. Mae yna alw sylweddol am ffrwythau perllan (afalau, gellyg, eirin, ac ati) o du cynlluniau blychau llysiau a siopau bwyd iach mewn ysgolion.
Mae grŵp llywio Perllannau Powys wedi nodi'r amcanion canlynol ar gyfer y prosiect :
- Ychwanegu gwerth at gynnyrch o'r perllannau ym Mhowys trwy ddatblygu cynnyrch, trwy weithgareddau ar y cyd a thrwy gyrchu marchnadoedd newydd ar gyfer ffrwythau perllan;
- Cynhyrchu deunyddiau cynyddu ymwybyddiaeth am y perllannau ym Mhowys;
- Trefnu Diwrnodau Agored mewn perllannau ym Mhowys;
- Trefnu arddangosiadau mewn Marchnadoedd Ffermwyr a Ffeiriau Bwyd;
- Datblygu Fforwm Perllan ar gyfer Powys;
- Datblygu cysylltiadau â phrosiectau eraill sy'n ymwneud â pherllannau a'u cynhyrchion ledled y DU;
- Trefnu achlysuron hyfforddi mewn rheoli perllan, a galluogi pobl i ailddarganfod sgiliau traddodiadol.
Mae'r prosiect wedi penodi ymgynghorwyr, sef Tony a Liz Gentil, i fod yn 'Feddyg Perllan' o fis Awst 2005 i fis Chwefror 2007. Bydd y Meddyg Perllan yn gwneud gwaith arolwg mewn deg ar hugain o berllannau ledled Powys, ac yn cynorthwyo perchnogion perllannau i ddatblygu cynlluniau rheoli cynaliadwy. Byddan nhw'n cynhyrchu taflenni gwybodaeth ac yn rhedeg cyrsiau hyfforddi i gynghori pobl ar sut i gynnal a chadw eu perllannau. Bydd y Meddyg Perllan hefyd yn llunio rhestr o bobl sydd â'r cymwysterau a'r profiad addas i wneud tasgau rheoli, fel tocio, mewn perllannau ym Mhowys.
|