Nod Prosiect Cynhaeaf Newydd yw ychwanegu gwerth at fwyd lleol a gynhyrchir ym Mhowys. Gall hyn olygu dod o hyd i ffyrdd arloesol o farchnata cynnyrch traddodiadol, fel cig dafad, neu ddatblygu cnydau sy'n newydd i Bowys, er enghraifft llus a madarch egsotig. Nod prosiectau eraill yw datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd lleol ym Mhowys; darparu cefnogaeth dechnegol i gynhyrchwyr bwyd; ac annog cydweithio i ddatrys problemau fel sut i ddosbarthu bwyd lleol.
Mae Prosiect Cynhaeaf Newydd yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau perthnasol i gynnig cymorth ag ymchwilio, datblygu cynnyrch, marchnata a sicrhau cyhoeddusrwydd. Mae Glasu hefyd yn gweithredu fel hwylusydd, trwy gynnal cyfarfodydd i ddwyn ynghyd unigolion sydd â diddordeb i drafod datblygu syniadau.
Ymhlith prosiectau ar y gweill mae:
- Prosiect
Perllannau Powys - cynyddu
ymwybyddiaeth o'r perllannau ym Mhowys. Fel rhan o'r
prosiect, mae Meddyg Perllan wedi'i benodi i gynnig
arbenigedd, mae pobl yn cael eu hyfforddi i reoli
eu perllannau ffrwythau ac rydym yn ymchwilio i'r
posibiliadau o ychwanegu gwerth at ffrwythau perllan.
- Amaethyddiaeth
a Gefnogir gan y Gymuned -
datblygu cysylltiadau rhwng defnyddwyr lleol a'r bobl
sy'n cynhyrchu eu bwyd. Bu Glasu yn cefnogi datblygiad
saith cynllun blychau llysiau ledled Powys sydd wedi
bod yn llwyddiannus iawn.
- Cyrchu
Arloesedd - rheoli cronfa
sy'n caniatu ymchwilio i syniadau arloesol a'u rhoi
ar brawf. Er enghraifft, ymchwil i achlysuron 'Bwydydd
Gwyllt Powys' ac 'O'r Gât i'r Plât', gan ailgysylltu
bwyd â fferm leol ei darddiad.
Os oes gennych chi unrhyw syniadau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am brosiectau sydd eisoes yn bodoli, neu os oes angen unrhyw gymorth arall arnoch chi, cysylltwch â ni.
|