Y Grŵp Gweithredu Lleol yw'r enw ar fwrdd rheoli Glasu. Mae'n cynnwys 21 o gynrychiolwyr sefydliadau sy'n berthnasol i waith Glasu. Eu bwriad yw darparu ffynhonnell werthfawr o wybodaeth leol a chenedlaethol i gynorthwyo â gwaith Glasu, a gallan nhw ddarparu arbenigedd lle bo'i angen.
Maen nhw'n gysylltiad pwysig iawn hefyd rhwng Glasu ac aelodau o'r cyhoedd, a gallan nhw ddarparu gwybodaeth am Glasu i'w Haelodau neu eu cysylltiadau, gan ganiatáu i gymaint o bobl â phosib ddod yn ymwybodol o'r rhaglen. Bydd y grŵp yn penderfynu ar geisiadau y bydd Swyddogion Prosiect Glasu yn eu cyflwyno iddyn nhw.
Mae aelodau'r Grŵp Gweithredu Lleol a'r grwpiau / sefydliadau maen nhw'n eu cynrychioli fel a ganlyn:
- ADAS
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Calch Tŷ-Mawr Lime
- Canolfan y Dechnoleg Amgen
- Coed Cymru
- Adran yr Economi a Thrafnidiaeth (Llywodraeth Cynulliad Cymru)
- Ethical Innovatory Solutions
- Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru)
- Undeb Amaethwyr Cymru (Is-Gadeirydd Presennol)
- Menter Maldwyn
- Partneriaeth Hyfforddiant Gwledig Canolbarth Cymru
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
- Cyngor Sir Powys
- Grŵp Tyfwyr Powys
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed
- Asiantaeth Ynni Hafren Gwy
- Fforwm Pren Cymru
- Clwb Ffermwyr Ifanc
|