Y Rhaglen LEADER+ ym Mhowys yw Glasu. Bydd LEADER+ yn rhoi dulliau arloesol o drin datblygiad gwledig ar brawf i gefnogi datblygiad cymunedau cynaliadwy yng Nghymru wledig.
Mae yna saith rhaglen LEADER+ yng Nghymru. Yr un egwyddorion bydd pob rhaglen LEADER+ yn eu dilyn, sef eu bod: -
- Yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn eu hardaloedd, er enghraifft mae Grŵp Gweithredu Lleol Glasu yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Coed Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Powys, DEFRA, Chwarae Teg, Awdurdod Datblygu Cymru yn ogystal â phobl sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth o ddydd i ddydd;
- Yn rhoi dulliau arloesol o drin datblygiad gwledig ar brawf;
- Yn cefnogi pobl sydd â syniadau y bydden nhw'n hoffi eu datblygu ar lawr gwlad;
- Yn cydweithio â sefydliadau eraill i ddatblygu prosiectau, er enghraifft bu Glasu yn gweithio gyda Brecknock Hill Cheviots a Chyswllt Ffermio i edrych ar ffyrdd amgen o ddefnyddio gwlân a chrwyn defaid.
Mae gan bob grŵp LEADER+ wahanol thema; mae Glasu wedi dewis ychwanegu gwerth at gynnyrch lleol. Mae Glasu hefyd yn gweithio gyda grwpiau targed penodol: -
- Microfusnesau a busnesau bychain
- Teuluoedd sy'n ffermio
- Grwpiau cydweithredol a chymunedol
Mae gan Glasu dri phrif faes gwaith: -
Ychwanegu gwerth at wastraff a gynhyrchir ym Mhowys a datblygu ffyrdd o ddefnyddio ynni adnewyddadwy mewn amgylchedd gwledig, fel peledi coed, tanwydd trafnidiaeth a rheolaeth gwastraff.
Ychwanegu gwerth at gynhyrchion bwyd fel cig a gynhyrchir yn lleol, trwy ddatblygu cynhyrchion newydd, rhoi cnydau bwyd newydd o'r ardal ar brawf ac edrych ar ffyrdd newydd o werthu cynnyrch o Bowys.
Ychwanegu gwerth at gynhyrchion heb fod yn fwyd, fel gwlân, coed a chnydau nad ydyn nhw'n fwyd.
Mae Glasu yn cefnogi pobl i roi syniadau ar brawf. Yn hytrach na rhoi grantiau, bydd Glasu yn talu am amser pobl, yn talu rhent ar dir neu ar safleoedd a ddefnyddir wrth ddatblygu cynhyrchion neu wrth dreialu cnydau, wrth ymchwilio a defnyddio cyfleusterau labordy, wrth ymchwilio i'r farchnad ac wrth wneud astudiaethau dichonolrwydd. Cyhoeddir canlyniadau'r prosiectau mae Glasu wedi ymwneud â nhw ac maen nhw ar gael i'r cyhoedd a sefydliadau cysylltiedig.
|