Mae
enw da Glasu am allu cynorthwyo prosiectau ar raddfa
fach sy'n anelu at gynaliadwyedd a gwelliant amgylcheddol
wedi dod yn adnabyddus iawn, ac mae nifer o feysydd
yn parhau lle gall Glasu gynorthwyo i ychwanegu gwerth
mewn modd arloesol a chynaliadwy. Byddai'r is-brosiect
yma'n darparu cyfrwng i syniadau newydd barhau i ddod
i'r fei, a chyfrwng i gyflawni datblygiadau penodol
nad yw rhaglenni gwaith sy'n bodoli yn eu cwmpasu.
Gydag is-brosiect Cyrchu Arloesedd yn rhedeg yn gyfochrog â'r tri is-brosiect arall, y bwriad yw y bydd prosiect Ynni a Gwastraff yn gallu trafod yr holl ymholiadau a gweithgareddau sy'n angenrheidiol i effeithio'n sylweddol ar reoli gwastraff a chynhyrchu ynni yn gynaliadwy. Ein nod yw cyflawni hyn trwy gydweithredu parhaus, adeiladu galluedd, a sicrhau cyfleoedd rhwydweithio ochr yn ochr â phartneriaid y prosiect.
Mae yna nifer o brosiectau ar y gweill o fewn yr is-brosiectau yma. Yn eu plith mae:
Grymuso Llanidloes - Astudiaeth Dichonoldeb ar Dreuliad Anerobig - LLES Sefydliad yn y gymuned yw Atebion Ynni Llanidloes (LLES) Cyf. Mae'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar raddfa leol â'r nod o gael Llanidloes i ddod yn dref sy'n niwtral o ran carbon.
Mae LLES am ddatblygu cynllun ynni adnewyddadwy yn benodol ar gyfer Llanidloes, sy'n addas ar gyfer anghenion y dref, sydd ar raddfa ac ar safle sydd o'r budd gorau o ran ffynhonnell gwastraff a'r galw am wres. Maen nhw wedi gwneud cais am gefnogaeth oddi wrth Glasu am astudiaeth dichonoldeb o Dreuliad Anerobig, a phenodwyd ymgynghorydd i wneud y gwaith. Amcan yr astudiaeth oedd darparu cyfleuster rheoli gwastraff a chreu ynni adnewyddadwy i'r dref a fyddai'n gallu cynnal ei hun yn ariannol. Byddai Treuliwr Anerobig nid yn unig yn cyfrannu at ynni adnewyddadwy ond byddai hefyd yn cyfrannu at economi carbon isel trwy reoli gwastraff ac ailgylchu maetholion mewn modd nad yw'n ddrwg i'r amgylchedd.
Mae'r wybodaeth o'r astudiaeth dichonoldeb yn eiddo cyhoeddus ac mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol eraill ledled Powys, Cymru a'r DU.
Datblygiad Model Busnes Gwres a Phŵer Cyfunol a Fwydir â Thanwydd Sglodion Pren ar gyfer Powys Wledig - ZEN-CO2 Nod ZEN-CO2 yw rhoi model datblygiad busnes Gwres a Phŵer Cyfunol a fwydir â thanwydd pren ar brawf a datblygu hyn ar gyfer trefi ym Mhowys wledig. Bydd y model yn cynnwys dadansoddiad economaidd ac amgylcheddol o dechnoleg Gwres a Phŵer Cyfunol gan gyfeirio at sefyllfaoedd cymunedau a busnesau lleol, a hefyd at gyfyngiadau ac adnoddau lleol. Machynlleth, Y Trallwng a Llanandras yw'r trefi a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y modelau.
Mae'r dechnoleg ar gyfer Gwres a Phŵer Cyfunol a fwydir â thanwydd pren yn dra arloesol ar raddfa sy'n briodol ar gyfer Powys wledig. Bydd y meini prawf asesu yn cynnwys costau cyfalaf, costau rhedeg a ragwelir, parodrwydd y farchnad, amserlen ar gyfer cyflenwi a gosod, allbwn gwres ac allbwn trydanol.
Wrth graidd y prosiect fydd y dadansoddiad o feichiau gwres y tair tref, opsiynau a chostiadau'r dechnoleg ac ymgynghoriadau â rhanddeiliaid i ddarganfod pa mor hyfyw fyddai Gwres a Phŵer Cyfunol a fwydir â thanwydd pren ym Mhowys.
|