Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image Layout Image
Glasu Layout Image
Layout Image
HAFAN spacer AMDANOM NI spacer STORFA CEFN GWLAD spacer CYNHAEAF NEWYDD spacer YNNI A GWASTRAFF spacer CYSYLLTU Layout Image
Layout Image
GWEITHRED 2 Layout Image GRŴP GWEITHREDU LLEOL Layout Image NODDWYR Layout Image NEWYDDION AC ACHLYSURON Layout Image SWYDDI Layout Image GALERI Layout Image ADRODDIADAU Layout Image
 
Wind Farm
 
Chwilio
  Cyflwyniad
  Tanwydd Pren ym Mhowys
  Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddadwy
  Rheoli Gwastraff yn Arloesol
  Cyrchu Arloesedd
  Adroddiadau ar Brosiectau Glasu

Alternative Fuel Management machineNod y prosiect yma yw llwyddo'n lleol mewn dau faes.

Y cyntaf yw dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â gwastraff masnachol y sir nad yw targedau ailgylchu awdurdodau lleol na thargedau ailgylchu cenedlaethol yn berthnasol iddo. Yma, mae yna gyfle aruthrol i ddod o hyd i lwybrau newydd ar gyfer ailgylchu a chreu cynhyrchion newydd a marchnadoedd newydd, pob un ohonyn nhw'n ysgogi cyflogaeth leol tra'n cwtogi ar yr effaith ar yr amgylchedd.

Daw'r ail trwy reoli gwastraff yn arloesol. Mae yna gyfle ar gyfer datblygiad technegol ac i gymunedau chwarae rhan mewn creu cyn lleied o wastraff â phosib - rhywbeth nad yw cynlluniau eraill yn delio ag ef.

Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at raglen ddeubig o waith, syniadau, cynhyrchion, dulliau o weithredu a marchnadoedd a fydd yn cyflenwi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan sefydliadau eraill.

Amcanion:

  • Llwyddo i greu cyn lleied o wastraff â phosib ledled cymunedau;
  • Edrych i mewn i dechnolegau, cynhyrchion a marchnadoedd newydd sy'n cynorthwyo ag ailgylchu yn y gymuned;
  • Datblygu ffyrdd newydd o ddynodi grymoedd marchnad gwastraff masnachol a chynnig datrysiadau lleol ar gyfer gwastraff lleol;
  • Datblygu'r potensial ar gyfer creu cyflogaeth leol.

Mae yna nifer o brosiectau ar y gweill o fewn yr is-brosiect yma. Yn eu plith mae:

Archwiliad Gwastraff Dyffryn Dyfi - ecodyfi
Mae ecodyfi yn gweithio gyda sector domestig a sector busnes yn Nyffryn Dyfi i gwblhau archwiliad gwastraff cyflawn. Byddan nhw'n dyfeisio system archwilio a fydd yn diwallu anghenion cymunedau ym Mhowys.

Bydd y prosiect yn galluogi ecodyfi i ddeall isadeiledd y farchnad ar gyfer gwastraff yn Nyffryn Dyfi trwy:

  • Fapio llif defnyddiau gwastraff, asesu ansawdd a swm y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu, lle mae'r gwastraff yn cael ei drosglwyddo iddo ac ar ba gost;
  • Dynodi defnyddiau y gellid eu prosesu a/neu eu marchnata yn lleol;
  • Dynodi cyfleoedd newydd ar gyfer casglu a gwerthu defnyddiau sydd wedi'u hailgylchu;
  • Dynodi rhwystrau i ddefnyddio mwy ar systemau presennol rheoli/ailgylchu gwastraff.

Micro-Dreuliad Anerobig Powys - Ethical Innovatory Solutions
Mae EIS yn ceisio adeiladu uned micro-Dreuliad Anerobig er mwyn profi'r egwyddor bod modd addasu'r dechnoleg yma a'i gwneud yn llai er mwyn ei gwneud yn hyfyw ar gyfer gwledydd â hinsawdd oerach ac ardaloedd gwledig fel Powys.

Os oes modd gwneud Treuliad Anerobig yn llai ac, o ganlyniad, darparu datrysiad lleol derbyniol i wastraff lleol, yna daw bio-wastraff yn nwydd â gwerth iddo yn lle bod yn ddihysbyddiad ac yn rhwymedigaeth.

Ailgylchu Ochr Ffordd - Ethical Innovatory Solutions
Mae EIS yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol i edrych ar enghreifftiau o arloesedd ac arfer da ailgylchu ochr ffordd a dulliau eraill o gasglu pethau ailgylchadwy mewn ardaloedd gwledig ledled y DU.

Y nod yw cynhyrchu dogfen ymarferol y gall sefydliadau ailgylchu ym Mhowys ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynllunio a datblygu gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli neu rai a allai fodoli, ac i gwtogi ar unrhyw ddyblygu diangen o ran ymchwil a/neu wariant.

Maen nhw'n ymchwilio i:

  • Gerbydau casglu;
  • Trin a didoli gwastraff sy'n cael ei gasglu;
  • Goblygiadau o ran iechyd a diogelwch;
  • Cyfyngiadau cyfreithiol;
  • Opsiynau prosesu terfynol.

Cynhyrchu Peledi ar Raddfa Fach - Coed Cymru
Mae'r prosiect yn golygu cynnal prawf technegol a phrawf marchnad ar gyfer technoleg peledi ar raddfa fach, a hynny ar raddfa sy'n addas i fasnachwyr ei mabwysiadu.

Bydd llwch llif gwastraff o nifer o weithgynhyrchwyr pren yn cael ei drosi yn beledi yn y felin beledi yn Coed Cymru. Cwblheir ymchwil i'r farchnad yn yr ardal leol. Dangoswyd bod yna ddiffyg cyflenwad peledi sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol, a bod cynnydd yn nifer y stofiau peledi sy'n cael eu gosod. Nod y prosiect yma yw creu cyswllt rhwng y dechnoleg gweithgynhyrchu peledi sydd ar gael yn Coed Cymru a sefydlu cyflenwad lleol dibynadwy o beledi pren ym Mhowys.

 

© Glasu 2006 | Map o'r Wefan