Nod
yr is-brosiect yma yw datblygu dull llawr gwlad o gyflenwi
rhywfaint o danwydd trafnidiaeth adnewyddadwy i'r Sir.
Y nod yw datblygu dyfeisgarwch y dylunio a'r gweithgynhyrchu sy'n bresennol yn y Sir heddiw. Bydd hefyd yn dangos ffyrdd posib o ddiwallu ein galw am danwydd trafnidiaeth gan ddefnyddio ffynonellau lleol a chynaliadwy.
O ganlyniad i'r gwaith yma, y bwriad yw arwain a darparu gwybodaeth ar gyfer cyfnod mwy sylweddol o ddatblygu diwydiant a thanwydd cynaliadwy ym Mhowys. Gobaith arall yw y bydd Powys yn datblygu grwpiau o bobl ddeallus ac ymwybodol sy'n cynrychioli elfennau cyflenwad a galw'r diwydiant.
Amcanion:
- Cynhyrchu tanwydd trafnidiaeth yn y Sir;
- Nodi a goresgyn rhai o'r rhwystrau i ddatblygiad y diwydiant;
- Profi egwyddor ar gyfer y canlynol:
- Cynhyrchu lleol wedi'i seilio ar:
- Olewau llysiau gwastraff;
- Olewau bio sy'n cael eu tyfu.
- Gwerthu yn lleol â chefnogaeth ymwybyddiaeth gyhoeddus;
- Gallu technegol o fewn y sir.
Mae Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru yn cynnal astudiaeth gwmpasu o fewn is-brosiect Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddadwy. Fe fydd yn edrych ar y potensial ar gyfer cynhyrchu a defnyddio bio-diesel ym Mhowys, gan gymharu dulliau cynhyrchu trawsesteriad a bio-bŵer.
Fe fydd y prosiect yma'n edrych ar ddefnyddwyr presennol y cynnyrch crai (olewau llysiau sydd wedi'u defnyddio), sut maen nhw'n cael eu casglu a'r potensial ar gyfer eu casglu yn y Sir. Bydd y chwaraewyr presennol yn yr arena olewau llysiau sydd wedi'u defnyddio (UVO) yn cael eu dynodi'n eglur, ynghyd â'u diddordeb mewn bio-diesel/tanwydd, a bydd barn y cyhoedd ac amryw o sectorau masnachol a phreifat yn cael ei cheisio.
Bydd y canlyniadau'n cynnwys dadansoddiad SWOT o'r dulliau cynhyrchu bio-diesel a bio-bŵer, ardaloedd cyflenwi ac opsiynau cynhyrchu posib, gydag argymhellion a chasgliadau.
Fe fydd yna brosiect ymchwil ar raddfa macro ar gyfer Powys gyfan, a phrosiect ar raddfa micro ar gyfer rhanbarth Dyffryn Dyfi. Mae yna ddiddordeb sylweddol yn Nyffryn Dyfi mewn bio-danwydd, a bydd ymchwil yn nodi defnydd olaf posib yn enwedig. Bydd hefyd yn edrych ar hyfywedd gosod pwmp bio-diesel ar Barc Eco Dyfi i'w ddefnyddio yn lleol.
Bydd grwpiau cymunedol yn gallu defnyddio'r wybodaeth i ddynodi ardaloedd sy'n hyfyw ar gyfer cynhyrchu bio-diesel neu'n dynodi lle mae angen partneriaethau y tu allan i'r Sir i'w gwneud yn hyfyw ei gynhyrchu.
Bydd y ddogfennaeth a ddaw i'n rhan yn sgîl y prosiect yn ddefnyddiol ar gyfer astudiaeth dichonoldeb fwy manwl (os bydd gofyn am un) a/neu bydd yn briodol i'w defnyddio i ddenu arian ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau casglu, cynhyrchu a/neu gyflenwi ar gyfer Powys.
|