Cynlluniwyd
y prosiect yma i ddynodi, hybu a manteisio i'r eithaf
ar gyfleoedd ar gyfer datblygu'r sector ynni pren cynaliadwy
ym Mhowys, ac i ddarparu gwasanaeth cyflawn. Fe fydd
yn cefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan a bydd yn gweithio
gyda chynhyrchwyr, gosodwyr a llunwyr manylebau tanwydd
a thechnoleg, yr awdurdod lleol, BBaChau, grwpiau cymunedol
a deiliaid tai, ac ar eu cyfer.
Prif nod y prosiect fydd gwella ansawdd tanwydd pren adnewyddadwy ym Mhowys ar ffurf boncyffion, sglodion a pheledi, a sicrhau eu bod ar gael yn haws a'u bod yn fwy cystadleuol. Dylai ynni pren fod yn opsiwn cyntaf pan gynigir systemau gwresogi. Bydd y prosiect yn cynyddu ymwybyddiaeth, hyder a galw ymhlith y defnyddwyr olaf posib.
Bydd gwybodaeth am y farchnad a datblygu cynnyrch a gwasanaeth arloesol yn galluogi tanwydd pren i gystadlu'n fwy effeithiol yn erbyn tanwydd ffosil, a thrwy hynny lleihau'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, gan arwain at leihau CO2.
Bydd datblygu'r sector yma'n arwain at fanteision ychwanegol fel diogelwch cynyddol y cyflenwad, adfywio gwledig, cadw swyddi a chreu swyddi o ansawdd uchel, a chynyddu'r sail sgiliau. Bydd hyn yn cynorthwyo Powys i hybu ei hun fel Sir werdd.
Mae'r is-brosiect cyfan yma'n cael ei gyflenwi gan Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru.
Amcanion:
- Cyflawni dull cydweithrediadol o drin y diwydiant;
- Datblygu a chyflawni agweddau cyflenwad a galw ar danwydd peledi a thanwydd boncyffion;
- Lleihau allyriadau carbon;
- Darparu gyrrwr economaidd ar gyfer rheoli ein hadnoddau yn gynaliadwy;
- Sicrhau bod y diwydiant yn cael ei hybu o fewn sector ynni y prif ffrwd.
|