Mae gan Bowys lawer iawn o bren a choed y gellid ei ddefnyddio'n fwy effeithiol. Mae grŵp o ffermwyr o ardal Y Trallwng newydd wneud hynny. Roedden nhw wedi sylweddoli y gallen nhw ddefnyddio'r holl goed roedden nhw'n ei losgi neu'n ei wastraffu ar gyfer pethau eraill ar y fferm, felly gwnaethan nhw benderfynu gwneud sglodion o'r coed a'u defnyddio i'w hanifeiliaid (defaid a gwartheg) orwedd arnyn nhw yn ystod y gaeaf. Yna byddan nhw'n compostio'r sglodion ar ôl eu defnyddio ar gyfer yr anifeiliaid, gan ddarparu cynnyrch terfynol â photensial iddo.
Mae arbrofion cychwynnol wedi'u cwblhau gan ddefnyddio'r compost sglodion coed mewn meithrinfeydd coed ac mewn gwaith adfer gwrychoedd, ac mae hyn wedi bod yn eithaf llwyddiannus.
Bydd y prosiect yn dadansoddi ac yn gwerthuso nifer o gymysgeddau compost gyda help ADAS a'r Coleg Garddwriaeth, Yr Wyddgrug. Byddan nhw hefyd yn cynnal arbrofion tyfu gan ddefnyddio nifer o wahanol rywogaethau o goed cynhenid i werthuso pa rai sy'n tyfu orau yn y cymysgeddau compost. Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i gynllunio a gweithgynhyrchu prototeip sgrinio a fydd yn sgrinio neu'n hidlo'r compost sglodion coed.
Bydd y Prosiect yn defnyddio'r data a gesglir o'r dadansoddiad ac yn rhoi'r compost ar waith yn y cymwysiadau perthnasol e.e. Meithrinfa Goed, Tyfu Llysiau Organig, Adfer Gwrychoedd ac fel Gwrtaith y Brif Ffrwd.
|