Mae Prosiect Storfa Cefn Gwlad yn annog cynhyrchwyr, proseswyr a defnyddwyr cynhyrchion heb fod yn fwyd i gynnig syniadau arloesol i ychwanegu gwerth at gynhyrchion lleol. Mae prosiect Cyrchu Arloesedd yn darparu cyfrwng i ddatblygu is-brosiectau bach nad yw rhaglenni gwaith sy'n bodoli, sef Helyg ym Mhowys, y Ddafad Gyfan, Ailgylchu Gwastraff Coed a Chynhyrchion Adeiladu Amgen, yn eu cwmpasu.
Mae nifer o is-brosiectau'n cael eu cefnogi ar hyn o bryd trwy elfen Cyrchu Arloesedd. Is-brosiectau ydyn nhw i ddatblygu cynhyrchion newydd ac ymchwilio i ffyrdd o ymelwa ar adnoddau ym Mhowys. Ymhlith yr is-brosiectau hyn mae:
Ffynonellu a Chyflenwi Defnyddiau Tirlunio Cynaliadwy Bydd y prosiect yn ymchwilio i'r potensial i gyflenwi defnyddiau tirlunio cynaliadwy o Bowys/Cymru. Bydd yn dynodi ac yn deall y gwendidau y bydd yn dod ar eu traws wrth geisio ffynonellu defnyddiau, yn dwyn sylw at enghreifftiau o arfer gorau, yn deall y rhwystrau sy'n golygu nad yw defnyddiau'n cael eu defnyddio ym Mhowys, ac yn awgrymu camau i'w cymryd i ddechrau creu cyswllt rhwng y galw lleol a'r cyflenwad lleol.
Tybiau Poeth o Ffynidwydd Douglas
Mae pren o ffynidwydd Douglas yn cael ei gynhyrchu'n helaeth iawn ym Mhowys a Chymru. Ar hyn o bryd, gwerth isel iawn sydd iddo, a defnyddir ef yn bennaf ar gyfer cynhyrchion gwerth isel fel defnyddiau ffensio. Mae prosiect Tybiau Poeth o Ffynidwydd Douglas yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio'r defnydd yma i gynhyrchu tybiau poeth, a allai gynyddu ei werth yn sylweddol.
|