Ar
hyn o bryd, y diwydiant adeiladu yw un o'r prif gyfranwyr
at safleoedd tirlenwi. Gyda hyn mewn golwg, mae'r prosiect
Cynhyrchion Adeiladu Amgen yn edrych ar ymchwilio i
ddefnyddiau adeiladu sy'n gwneud llai o niwed i'r amgylchedd,
eu datblygu a dod â nhw i'r farchnad.
Bydd y prosiect yn ymchwilio i'r broses gyfan, o ddatblygu i weithgynhyrchu i farchnata. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddau gynnyrch, sef Glastr (www.glaster.co.uk) a Lloriau Calch-crit (www.limecrete.co.uk).
Glastr Plastr a/neu rendrad sydd wedi'i ddatblygu gan ddefnyddio gwydr cynwysyddion wedi'u hailgylchu yn agreg yn lle tywod yw glastr. Mae'r BRE (Sefydliad Ymchwil Adeiladu) wedi'i roi ar brawf ac mae bellach ar gael i'w brynu.
Calch-crit Llawr wedi'i seilio'n llwyr ar galch yw Llawr Calch-crit. Mae iddo werthoedd ynysu da ac nid oes yn rhaid defnyddio cymaint o ynni i ddod â'r calch i'w gynnyrch terfynol â'r ynni a ddefnyddir ar gyfer llawr sment. Mae'n bosib ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ac mae'n cydymffurfio â Rhan L y rheoliadau adeiladu.
Amcanion y Prosiect
- Ymchwilio i farchnadoedd sy'n bodoli a marchnadoedd y dyfodol
- Rhoi cynhyrchion ar brawf a datblygu cynhyrchion fel lloriau Calch-crit a phlastrau a morterau o wydr wedi'i ailgylchu
- Cymorth technegol oddi wrth arbenigwyr perthnasol, fel y Sefydliad Ymchwil Adeiladu
- Cynhyrchu taflenni a deunyddiau cyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o'r cynhyrchion
- Trefnu diwrnodau agored fel bod unigolion sydd â diddordeb yn gallu dysgu am y cynhyrchion a'u gweld yn cael eu defnyddio
- Trefnu achlysuron hyfforddiant mewn cynhyrchu a chymhwyso'r cynhyrchion.
|