Cynlluniwyd y prosiect yma i ddynodi, hybu a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer datblygu'r diwydiant gwlân ym Mhowys. Bydd y prosiect yn cefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan a bydd yn gweithio gyda chynhyrchwyr, proseswyr a defnyddwyr gwlân lleol, ac ar eu rhan.
Yng nghynhadledd y Ddafad Gyfan a gynhaliwyd yn 2001, cydnabuwyd bod nifer o feysydd allweddol i ymchwilio iddyn nhw a'u datblygu. Bydd y meysydd canlynol yn cael sylw dan y prosiect yma: dichonoldeb ffatri sgwrio gwlân ym Mhowys, yr angen i edrych ar fridiau defaid amgen sy'n cynhyrchu gwlân o well ansawdd, datblygu cyfleoedd marchnata ar gyfer gwlân a gynhyrchir yn lleol a chodi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ddefnyddio gwlân Cymreig.
Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cychwyn ar bob un o'r tri maes allweddol.
Gwnaeth tendr Heather Mitchell lwyddo i ennill yr astudiaeth dichonoldeb sgwrio, ac mae hi wedi cwblhau ei hastudiaeth a fydd ar gael ar y wefan.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gydag ADAS Pwllpeiran i asesu hyfywedd diadell Bowmont yng Nghanolbarth Cymru. Mae defaid Bowmont yn groesfrid rhwng Shetland a Merino, a gallan nhw gynhyrchu gwlân mor goeth â 16 micron. Hyd yma, mae'r prosiect newydd gyrraedd diwedd ei flwyddyn gyntaf, ac mae wedi darganfod rhai pethau diddorol iawn.
Trefnwyd nifer o achlysuron i gynyddu proffil gwlân a gynhyrchir yn lleol, sef yr Ŵyl Gwlân a Helyg. Achlysur yw hwn yn ei ail flwyddyn, ac mae'n cynnwys cynhyrchion gwlân a helyg fel ei gilydd. Mae'r achlysur yn cynnig gweithdai ar gyfer plant ac oedolion mewn ffeltio, gwau a gwneud basgedi.
I gael mwy o wybodaeth, gwelwch y dudalen achlysuron.
|