Helyg ym Mhowys
Cynlluniwyd y prosiect yma i nodi a hybu a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer datblygu helyg crefft ym Mhowys. Bydd y prosiect yn cefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan a bydd yn gweithio gyda chynhyrchwyr, proseswyr a defnyddwyr helyg, ac ar eu rhan.
Prif nod y prosiect fydd ymchwilio i wahanol is-rywogaethau o helyg crefft a fydd yn tyfu'n llwyddiannus ym Mhowys, ymgymryd â gwaith datblygu cynnyrch i edrych ar gynhyrchion newydd ac ymchwilio i sut i gyrraedd marchnadoedd newydd.
Mae'r prosiect yn cael ei yrru gan grŵp craidd o gynhyrchwyr a defnyddwyr ym Mhowys, gan gynnwys Canolfan Biomas Cymru sy'n cynnal yr arbrofion tyfu.
Amcanion y Prosiect:
- Sicrhau dull cydweithredol o gynhyrchu a defnyddio'r deunydd,
- Datblygu a chyflawni agweddau cyflenwad a galw ar helyg crefft,
- Annog defnyddio helyg crefft yn fwy helaeth fel cnwd amgen,
- Sicrhau bod y diwydiant yn cael ei hybu ledled y Sir
|