Nod Prosiect Storfa Cefn Gwlad yw datblygu cynhyrchion arloesol o ddefnyddiau fel coed/pren, planhigion, gwlân, crwyn defaid, calch a gwydr. Trwy weithio mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau perthnasol, ein nod yw 'ychwanegu gwerth' at ddefnyddiau lleol heb fod yn fwyd trwy gynnig cymorth ag ymchwilio, datblygu cynnyrch, marchnata a sicrhau cyhoeddusrwydd. Mae gan yr holl brosiectau rydym ni'n gweithio arnyn nhw thema gynaliadwy, boed hynny'n ffynonellu defnyddiau crai neu sicrhau bod prosiectau a ddatblygir yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Mae Glasu hefyd yn gweithredu fel hwylusydd, trwy gynnal cyfarfodydd i ddwyn ynghyd unigolion sydd â diddordeb i drafod datblygu syniadau.
Dyma enghreifftiau o brosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd:
- Helyg
ym Mhowys - cynnal treialon
maes gyda helyg ar gyfer crefftau a basgedi, yn edrych
ar ddatblygu cynnyrch ac yn cyrchu marchnadoedd newydd
ar gyfer cynhyrchion helyg.
- Y
Ddafad Gyfan II - edrych
ar farchnadoedd amgen a gwella dyluniad cynhyrchion
gwlân e.e. dillad. Mae'r prosiect yma hefyd yn edrych
ar wahanol fridiau o ddefaid er mwyn cael gwlân o
ansawdd mwy coeth.
- Defnyddiau
Adeiladu Amgen - Bydd y
prosiect yn datblygu cynhyrchion adeiladu nad ydyn
nhw'n niweidio'r amgylchedd cymaint, yn ymchwilio
iddyn nhw ac yn mynd â nhw i'r farchnad. Bydd pwyslais
arbennig ar loriau ynysu o galch-crit, a gwydr wedi'i
ailgylchu fel dewis amgen i dywod mewn plastr.
- Cyrchu
Arloesedd - Rheoli cronfa
sy'n caniatáu ar gyfer syniadau gwirioneddol arloesol
wrth ychwanegu gwerth at gynhyrchion heb fod yn fwyd.
Ymhlith enghreifftiau o brosiectau mae: Tybiau Poeth
o Ffynidwydd Douglas a Datblygu Gwellt Toi ym Mhowys.
- Ailgylchu
gwastraff coed - ymchwilio
i nodweddion compost sglodion pren a datblygu cymysgeddau
compost ar gyfer cymwysiadau penodol e.e. meithrinfeydd
coed.
|