Prosiect
ar y cyd â 2 grŵp LEADER+ arall yw Datblygu'r
Diwydiant Gwlân a Chrwyn Defaid ym Mhowys, sef
Fells and Dales yn Cumbria a LEADER+ Gogledd Antrim
yng Ngogledd Iwerddon. Nod y prosiect yw cynorthwyo
â datblygiad y diwydiant gwlân a chrwyn
defaid ym mhob un o'r tair ardal. Mae'r prosiect yn
cynnwys elfennau y mae pob un o'r tri grŵp yn gweithio
arnyn nhw (Gweithredu ar y Cyd) ac elfennau sy'n digwydd
yn eu hardaloedd eu hunain.
Bydd y gweithredu ar y cyd yn cynnwys
cyfarfodydd rheolaidd rhwng grwpiau i rannu arfer da
a syniadau, sefydlu archif o grwyn defaid o bob ardal,
nifer o seminarau i gynyddu ymwybyddiaeth o grwyn defaid
a datblygiad protocol cadwraeth arfer gorau ar gyfer
gwlân ar grwyn defaid.
Bydd y gweithgareddau canlynol hefyd
yn cael eu cynnal dan y prosiect yma -
Uchafbwynt
newydd Gŵyl Tyddynwyr a Gerddi ym Maes Sioe Frenhinol
Cymru Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Achlysur newydd
cyffrous yw GWYRTHWLÂN CYMRU i ddwyn pobl ynghyd
o ymhell ac agos sy'n rhannu awch am wlân a ffibrau
naturiol, ac i arddangos ansawdd ac amlbwrpasedd rhagorol
ffibrau, cynhyrchion a sgiliau sy'n ffurfio asgwrn cefn
y casgliad trawiadol o ddiwydiannau cysylltiedig yng
Nghymru.
Â'r nod o ychwanegu at elfennau
o'r ŵyl sydd eisoes yn bodoli, bydd GWYRTHWLÂN
CYMRU yn cynnwys arddangosfeydd, ymgyrchoedd hybu, arddangosiadau
a stondinau masnach gan ddetholiad eang o sefydliadau,
cynhyrchwyr a chrefftau yn ogystal ag YSGOL WLÂN
lle bydd gwybodaeth, arddangosiadau a dosbarthiadau
ar gael. Hefyd fe fydd arddangosfa o waith enillwyr
cystadleuaeth GWYRTH GWLÂN.
Mae mwy o wybodaeth am yr achlysur,
y stondinau neu'r gystadleuaeth, a cheisiadau am stondinau,
ar gael o swyddfa Glasu. Neu, os hoffech gael eich cynnwys
ar y rhestr bostio, cysylltwch â ni.
|