Hybu
tyfiant a phlannu coed â tharddiad lleol cynhenid.
Amcan y prosiect hwn yw
cynorthwyo busnesau ym Mhowys sy'n dymuno tyfu a chyflenwi
eginblanhigion coed â tharddiad lleol.
Cychwynnodd y prosiect ym mis Ebrill
2005 ac fe'i cynhelir hyd at fis Mawrth 2008 drwy nawddogaeth
LEADER+ Yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru
a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Diogelu bioamrywiaeth
a synnwyr economaidd da
Coed â Tharddiad Lleol?
Tyfir y coed hyn o hadau
a gesglir o ardal a bennwyd yn lleol.
Gwreiddiau Lleol?
Wrth gasglu hadau â tharddiad
lleol, ceisiwch osgoi casglu hadau o goed, o bosib,
sydd wedi'u tyfu o had sydd wedi'i fewnforio yn y gorffennol.
I fod yn siŵr, dylid casglu o goed yr adnabyddir y'u
bod â tharddiad lleol hir-sefydlog dibynadwy, megis y
rhai o goedwigoedd hynafol lled-naturiol.
Pam plannu Coed Cynhenid
a Llwyni â Tharddiad Lleol neu Wreiddiau Lleol?
Mae
eu cyfansoddiad genetig yn sicrhau eu bod wedi addasu
i amodau lleol a geir yng Nghymru.
- Mae plannu coed sy'n addasu'n well yn sicrhau gwell
siawns o oroesi, gan osgoi'r gost o ailblannu. Mae
tyfu coed eich hunain yn arbed hyd yn oed mwy o arian.
- Gall tyfu coed o hadau sydd wedi'u mewnforio wahaniaethu'n
sylweddol o ran nodweddion genetig hanfodol, megis
yr adeg y maen nhw'n deilio, blodeuo a ffrwytho, gan
darfu ar y cydbwysedd rhwng coed cynhenid a'r bywyd
gwyllt y maen nhw'n eu cefnogi.
- Mae ffynhonnell leol o goed a hadau yn lleihau costau
cludiant, lleihau llygredd a helpu i ddiogelu cyflogaeth
leol.
- Mae mwyafrif yr asiantaethau sy'n gysylltiedig â
phlannu coed, gan gynnwys Coed Cymru, Y Comisiwn Coedwigaeth,
Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Ymddiriedolaeth Coetiroedd,
Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Awdurdodau Unedol
bellach yn argymell defnyddio coed â tharddiad lleol.
Sut all y prosiect
eich helpu?
Mae prosiect Meithrinfeydd
Coed Glasu'n cefnogi tyfwyr sy'n cynhyrchu coed cynhenid,
sy'n cael eu tyfu o hadau sydd wedi'u casglu'n lleol
(o fewn parthau tarddiad 303/304), drwy:
Grantiau.
Mae Cronfa Fenter Meithrinfeydd
yn cynnig grantiau hyd at £1000 i ariannu datblygiadau
meithrinfeydd.
- Cyngor. Cyngor
cyffredinol ar weithrediadau meithrinfeydd coed yn
cael ei ddarparu gan Gydlynydd Tarddiad Coed Lleol.
- Hyfforddiant.
Mae'r achlysuron a drefnwyd
hyd yma yn cynnwys ymweliadau â meithrinfeydd coed
presennol a seminarau ymarferol ar gasglu hadau coed.
- Marchnadoedd.
Cydlynu marchnata coed â tharddiad
lleol ym Mhowys, er enghraifft : trwy gefnogi tyfwyr
mewn sioeau masnachu; neu ddatblygu gwerthiant drwy'r
rhyngrwyd.
- Cydweithrediad.
Cefnogi cydweithio rhwng tyfwyr
unigol i leihau costau a gwella'r agwedd farchnata.
|