Cydweithio
Gan adeiladu ar lwyddiant ymagwedd LEADER+, mae cydweithio gyda grwpiau
LEADER+ a phartneriaid mewn rhanbarthau eraill yn ffocws ychwanegol
i brosiectau Gweithred 2, yn cynnwys
:
Adventa (Sir Fynwy) Gogledd
Antrim
Fells and Dales (Cumbria) Coed Cymru
Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Bwrdd Marchnata Gwlân Prydeinig
Welsh Clothing and Textile Association
Datblygiad Cyflenwol
Pwrpas y cydweithio yw datblygu'r adnoddau naturiol
(e.e. coedwigaeth, pren, defaid, gwlân) yn ardaloedd
LEADER+ perthnasol mewn modd cydweithredol a chyflenwol,
gan osgoi dyblygiad.
Rhannu gwybodaeth ac Arferion
Gorau
Yn ychwanegol at gyfathrebiad rheolaidd, ac at y diben
perthnasol, rhwng staff o bob rhanbarth, cynorthwyir
cydweithio pellach gan Fyrddau Trafod Cydweithiol chwarterol,
Astudiaeth Ddadansoddi Gymharol a Chynhadledd i rannu
gwybodaeth ac arferion gorau.
Gwahanol ranbarthau, themâu
sy'n gyffredin
O fewn rhaglenni 'Gweithred 2'', mae grwpiau LEADER+
unigol yn cydweithio o dan thema gyffredin. Er enghraifft,
mae'r thema trosfwaol, "O'r Had i'r Hau" yn
cynnwys prosiectau unigol y ddau bartner:
- Mae Glasu yn canolbwyntio
ar y galw a'r cyflenwad o hadau coed ac eginblanhigion.
- Yn ategu hyn, mae Adventa
yn canolbwyntio ar reoli coetiroedd cynaliadwy, marchnata
pren lleol, cefnogi cyflogaeth leol a dehongli coetiroedd.
|