Arallgyfeirio ar Ffermydd – Prosiectau arloesol
Treftadaeth Ddiwylliannol
Mae’r thema hon yn anelu at warchod treftadaeth wledig Powys. Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer gweithgareddau fel:
- Cyflawni archwiliadau manwl o’r dreftadaeth naturiol ac adeiledig yng nghymunedau Powys. Mae hyn yn cynnwys ‘naws am le’, hanes llafar, diwydiannau diwylliannol a thirluniau naturiol, nid dim ond adeiladau hanesyddol a’u defnydd
- Nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithgareddau posibl yn ymwneud â’r dreftadaeth ddiwylliannol a nodwyd drwy’r archwiliadau
- Ymchwilio i ddulliau arloesol o ymgysylltu â phobl leol ac ymwelwyr i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol cymunedau
- Nodi safleoedd lle gellid cyflwyno ystod o ddulliau ‘adfer’ strategol, arloesol fel cynlluniau peilot
- Datblygu dulliau marchnata strategol i hyrwyddo’r dreftadaeth naturiol ac adeiledig ym Mhowys
- Creu adnoddau, ymweliadau i weld arfer gorau ac astudiaethau achos
1.
Cynllun Cymorth ar gyfer Arallgyfeirio ar Ffermydd – cynllun
grant cyfalaf a refeniw i gefnogi teuluoedd amaethyddol i ddatblygu
ffynonellau o incwm cynaliadwy amgen, heb fod yn ymwneud ag
amaethyddiaeth i ddiogelu busnes y fferm yn y dyfodol, creu
cyfleoedd gwaith a chyfrannu at gynaliadwyedd tymor hir y gymuned
leol. Cynigir cymorth mentora i rai sy’n derbyn grantiau
i’w helpu i weithredu eu cynlluniau.
2. Cymorth
Arloesol i Deuluoedd Amaethyddol – cymorth ariannol i
ddatblygu syniadau newydd a chefnogi’r gwaith o dreialu
dulliau newydd o arallgyfeirio ar ffermydd nad ydynt yn ymwneud ag
amaethyddiaeth. Gallai prosiectau gynnwys ymchwil marchnad,
astudiaethau ymarferoldeb a pheilot manwl ar gyfer cynhyrchion,
gwasanaethau neu dechnegau arloesol.
Bydd ymweliadau â gweithdai ac ymweliadau i weld arfer
gorau ar gael drwy gydol y ddau brosiect.





