Sut i wneud Cais
Rydym yn gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd - cysylltwch
â Glasu ar 01982 552224 am ragor o wybodaeth.
Cyn gwneud cais yn ffurfiol i Glasu am nawdd, rydym yn eich
cynghori i gysylltu â’r Swyddog Prosiect perthnasol.
Rydym yn hapus i gwrdd â chi i drafod eich cynnig ac i weld
ai Glasu yw’r nawdd mwyaf priodol ar gyfer eich prosiect chi
ac a ydych yn cwrdd â’r meini prawf dethol ai
peidio.
Unwaith y bydd y Swyddog Prosiect wedi cwrdd â chi a’ch
bod yn hapus gyda’r broses, gallwch wneud cais ar unrhyw
bryd. Fodd bynnag, nodwch fod rhaid cwblhau pob prosiect yn llwyr,
cyflwyno gwerthusiadau a defnyddio’r holl nawdd erbyn 31
Rhagfyr 2010.
Bydd ceisiadau am grant sy’n llai na £5,000 yn cael eu trafod gan y Swyddog Prosiect, Rheolwyr Rhaglenni Glasu a Chadeirydd y Grwp Gweithredu Lleol. Nid oes unrhyw gyfyngiadau dyddiad ar gyfer y broses hon.
Rhaid cyflwyno prosiectau ar gyfer mwy na £5,000 i’r Grwp Gweithredu Lleol i’w cymeradwyo’n ffurfiol. Awgrymir y dylai’r ymgeisydd gysylltu â Swyddog Prosiect am gyngor am y dyddiad cau nesaf i brosiectau a gyflwynir i’r Grwp Gweithredu Lleol.
Mae nawdd yn gyfyngedig ar gyfer pob prosiect. Rydym felly yn eich cynghori i gysylltu â’r tîm Glasu cyn gynted ag sy’n bosibl i osgoi cael eich siomi.
Click
here to view a sample application form







