Select your Language
Increase or decrease font size

Amdanom Ni

Rydym yn gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd - cysylltwch â Glasu ar 01982 552224 am ragor o wybodaeth.

Partneriaeth leol o fudiadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol/cymunedol yw Glasu a’n prif amcan yw cefnogi dyfodol cynaliadwy i bobl ym Mhowys. 

Rydym yn ffurfio rhan o Bartneriaeth Wledig Powys a sefydlwyd yn 2000 i oruchwylio datblygu, rheoli a gweithredu’r rhaglen amcan 2 ac amcan 3 presennol ym Mhowys. Mae Rhaglen Adfywio Powys ar hyn o bryd yn rheoli Cynllun Datblygu Gwledig Powys sy’n rhaglen a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo datblygu ardaloedd gwledig. Mae pedair Echel i’r Cynllun Datblygu Gwledig.  

Mae Glasu yn edrych yn benodol ar brosiectau sy’n cael eu cynnwys o fewn Echel 3 ac Echel 4:

Echel 3 – Gwella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig ac arallgyfeirio o fewn yr economi gwledig.

Echel 4 – Datblygu’r agwedd Leader. Mae hyn yn cefnogi pobl sydd â syniadau yr hoffent eu datblygu ar lefel llawr gwlad ac yn helpu gyda chysylltiad y gymuned a datblygiad.

Meysydd gwaith

Ar hyn o bryd mae gan Glasu wyth maes prosiect. Os hoffech wybod rhagor am y prosiectau penodol hyn, cliciwch ar dudalennau’r prosiectau unigol am ragor o wybodaeth.

1.  Bwyd a Chynaladwyedd

2.  Blas ar Bowys 

3.  Dyfodol Carbon Isel

4.  Treftadaeth, Diwylliant a Chynnyrch Lleol

5.  Gwyliau a Digwyddiadau

6.  Twristiaeth Gwyllt a Gwyrdd

7.  Cynnyrch Gwyllt a Gwyrdd

8.  Ynni Adnewyddadwy Powys