Prosiectau Cyfredol
Mae Twristiaeth Arloesol am wella perfformiad economaidd
a lefelau incwm mewn twristiaeth wledig. Mae cymorth ariannol ar
gael ar gyfer gweithgareddau fel:
- Ymchwil neu i dreialu gwasanaethau trafnidiaeth ar gyfer ymwelwyr
- I dreialu rhaglenni cyfryngau newydd a gwasanaethau gwybodaeth arloesol, er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i Bowys fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy
- I dreialu digwyddiadau iaith, diwylliant neu fwyd newydd
- I dreialu ‘canolbwyntiau’ twristiaeth ac ymchwil i gyfleusterau llety newydd neu i dreialu syniadau newydd ar gyfer twristiaeth bywyd gwyllt a gweithgareddau twristiaeth arloesol
- Ar gyfer astudiaethau achos a phrosiectau enghreifftiol, mentora, ymchwil farchnad ac ymweliadau ymarfer gorau
Dyma rai o’r prosiectau presennol, ac sy’n
cael eu hariannu gan Dwristiaeth Arloesol:
- Heartfelt Work
- Astudiaeth rheoli trafnidiaeth dwristiaeth Talybont ar Wysg
- Gwersylla Bron yn Wyllt
- Mid Wales Art Experience
- Ffilmiau Naws am Le i Bowys
- Asedau Naturiol Dyffryn Gwy
Dyma rai enghreifftiau o brosiectau y mae
Glasu wedi eu cynorthwyo yn y cynllun busnes diwethaf rhwng
2008-2011:
Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd
Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd
Gwyddom fod ystyriaethau amgylcheddol yn ffactor
cynyddol bwysig pan fydd ymwelwyr yn penderfynu prynu pethau. Gydag
amrywiol labelau fel twristiaeth werdd, eco-dwristiaeth,
twristiaeth gyfrifol neu dwristiaeth gynaliadwy, nod llawer
o’r mentrau hyn yw cynorthwyo a datblygu diwydiant
twristiaeth i fwynhau costau is ac effeithio llai ar lefel
amgylcheddol / gymdeithasol tra’n cynnig profiad gwych i
ymwelwyr.
O’r ardaloedd hynny lle mae’r prosiectau hyn
wedi llwyddo’n barod, dyma rai o’r gwersi ar gyfer
datblygu’r farchnad hon yn llwyddiannus:
- Sicrhau eglurder ac enw da i’r honiadau a wneir gan eco-gynhyrchion / eco-wasanaethau – ac sy’n defnyddio rhyw fath o feincnodi neu ardystiad.
- Hyrwyddo a marchnata wedi’i dargedu.
- Cymorth wedi’i gyd-gysylltu.
Nod y Cynllun hwn yw dysgu o’r gwersi hyn a
gweithredu cynllun eco-ardystio fel ffocws ar gyfer: cynnwys
busnesau twristiaeth; codi eu hymwybyddiaeth o’r amgylchedd;
eu cymell i geisio lleihau eu costau a’u heffaith ar yr
amgylchedd; hyrwyddo a marchnata i gael mynediad at y farchnad
werdd newydd hon.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddarparu mewn
cydweithrediad â phrosiect
Collabor8 Parc Cenedlaethol Bannau Brycheinioger
mwyn:
- Cynnig mwy o synergedd ac arbedion gyda’r pecynnau cymorth a marchnata
- Cysoni strategaethau rhanbarthol / cenedlaethol / rhyngwladol ehangach
- Sicrhau dull cyffredin o weithredu ar draws ardal ddaearyddol eang
OutdoorGirlz
Prosiect yn ymchwilio i, datblygu a marchnata pecyn o 6
llwybr beicio mynydd wedi eu tywys, i ddarparu’n benodol ar
gyfer merched sy’n beicio mynydd, gyda’r llwybrau hefyd
yn mynd heibio i fywyd gwyllt, bwyd lleol a llefydd aros
gwyrdd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Glasu neu ewch i
wefan
OutdoorGirlz.
e-lwybr Glaslyn
Llwybr bywyd gwyllt gwyrdd, thematig, gyda dehongli
traddodiadol ac electronig (clywedol), gan Ymddiriedolaeth Natur Sir
Drefaldwyn.
Nod y Prosiect yw datblygu, fel prosiect peilot, llwybr
thematig wedi’i gefnogi gan wybodaeth a dehongli y gellir eu
lawrlwytho, ac sy’n cysylltu:
·
Cofeb Wynfford Vaughan-Thomas (ar y Ffordd Fynydd rhwng
Llanidloes a Machynlleth) a;
·
Gwarchodfa Natur Glaslyn; a
·
Mannau lle mae gwaith lliniaru newid hinsawdd yn cael ei wneud ar
Ystâd Bugeilyn (fel rhan o Brosiect Pumlumon).
Prosiect adfer cynefin mawr yw Prosiect Pumlumon
sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru ac
wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd,
Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth ac
eraill.
Yn 2006 cyflawnwyd astudiaeth gwmpasu economaidd a
chymdeithasol i sefydlu’r angen am Brosiect Pumlumon ac i
ganfod beth oedd y cyfleoedd. Yn ôl yr astudiaeth, mae angen
mathau newydd o lety ymwelwyr sydd wedi ei gysylltu’n well i
dreftadaeth naturiol yr ardal, ynghyd â gwaith dehongli a
mynediad gwell at y dreftadaeth hon i ymwelwyr a phreswylwyr lleol
fel ei gilydd. Cadarnhawyd hyn drwy ymgynghori i
ddilyn.
Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno’r gwaith sydd
wrthi’n cael ei wneud yng Nglaslyn a Bugeilyn, i’r
cyhoedd – ymwelwyr a phreswylwyr lleol fel ei gilydd.
Mae’r gwaith yn cynnwys lliniaru yn erbyn y newid yn yr
hinsawdd (blocio ffosydd, pori gyda gwartheg traddodiadol,
addasu’r trefniadau pori, adfer grug ayb) yn ogystal â
gwaith cadwraeth natur mwy confensiynol (y grugiar goch, y boda
tinwyn ayb). Bydd dehongli’n dangos i bobl pa mor bwysig
yw’r gwaith hwn, a sut mae ffermwyr lleol yn ein helpu
i’w gyflawni.
Bydd y llwybr arfaethedig yn ychwanegiad gwerthfawr at
seilwaith ymwelwyr yr ardal a hefyd yn rhan bwysig o Lwybr Cylchol
Pumlumon (wrthi’n cael ei ddatblygu), a ddefnyddir i gael
ymwelwyr i wario mwy yn yr ardal ac felly i greu mwy o
swyddi.
Hwn fydd e-lwybr cyntaf Canolbarth Cymru, a bydd
gwybodaeth am lwybrau, dehongli, hanesion lleol, mewnbwn gan
ffermwyr lleol, recordiadau gan Vaughan-Thomas, a hyd yn oed
barddoniaeth a miwsig lleol ar gael o ddewislen ar y wefan ac ar
gael i’w lawrlwytho i ffonau symudol, chwaraewyr i-player a
chwaraewyr cyfryngau symudol eraill.
Llwybr Natur a Chelfyddyd Shakespeare
Llwybr natur a phecyn o ddigwyddiadau thematig a
ddarperir gan
Shakespeare Link. Mae’r llwybr yn defnyddio gwaith
Shakespeare i integreiddio a hybu bywyd gwyllt, diwylliant a
chelfyddyd, fferm organig ac ynni adnewyddadwy lleol i ymwelwyr.
Bydd y prosiect yn cael ei ddatblygu o gwmpas Theatr y
Glôb Byw yn Penlanole,
fferm organig a gwarchodfa natur breifat gofrestredig sy’n
swatio’n glud yn Nyffryn Gwy Uchaf, 3 milltir i’r de o
dref Rhaeadr.
Mae gwaith Shakespeare yn llawn dop o gyfeiriadau at
fflora a ffawna, bywyd gwyllt a bywyd gwledig. Nod y prosiect yw
cyfuno’r cyfeiriadau hyn yn llwybr natur addysgiadol unigryw
o gwmpas y fferm. Gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed
a’r ecolegydd lleol, Ursula Hill Bowen, mae Shakespeare Link
wedi mapio llwybr ¾ milltir sy’n
ymgorffori:
- coetir brodorol (sy’n garped o eirlysiau ar hyn o bryd);
- siwrne drwy ganol gwrych pren bocs hynafol;
- coed ar ffurf y cymeriadau Titania & Prospero;
- pwll dŵr llawn bywyd gwyllt;
- cerfluniau helyg a llif gadwyn (gan artist lleol) o gymeriadau Shakespeare;
- pont ar draws nant hudolus;
- cuddfan adar / bywyd gwyllt;
- anifeiliaid fferm;
- dolydd gwair / blodau gwyllt traddodiadol
- tyrbin gwynt a phaneli solar ffotofoltaig
Bydd y llwybr yn defnyddio amrywiol ddulliau o ddysgu,
cymryd rhan ac ennill profiad, gan gynnwys taflenni / pamffledi a
byrddau dehongli traddodiadol ar gyfer y llwybr yn ogystal â
theithiau tywys / digwyddiadau, “dyfyniadau” ar gyfer
eich ffonau symudol; helfeydd trysor naturiol ac astudiaethau a
gemâu arloesol eraill i bawb o bob oed.
I hwyluso mynediad i ystod eang o ymwelwyr, bydd
dyluniad y llwybr yn cynnwys dewis o 6 llwybr cylchol 250-300
llath, yn ogystal â’r prif lwybr ¾ milltir. Bydd
byrddau dehongli, mynegbyst a thaflenni yn rhoi cyfle i ymwelwyr
grwydro’n hamddenol ar hyd y llwybr yn eu hamser eu hunain ar
ddiwrnodau digwyddiad a diwrnodau agored.
- Yn ogystal â seilwaith ffisegol y llwybr, bydd yr atyniadau pellach yn y pecyn i ymwelwyr yn canolbwyntio ar raglen o ddigwyddiadau:
- Gweithdai thematig, diwrnodau agored a theithiau tywys;
- Bydd y llwybr ar agor i ymwelwyr o’r cyhoedd am 3 diwrnod y mis o leiaf rhwng Ebrill a Medi, fel arfer gydag un diwrnod yn benodol ar gyfer tywys;
- Yn ystod y tymor cyntaf, bydd 6 diwrnod natur penodol yn ogystal â gweithdai thematig eraill.
- Digwyddiadau ategol – mae’r rhaglen wedi’i datblygu mewn cysylltiad ag atyniadau lleol eraill fel Gigrin Farm, Ymddiriedolaeth Cwm Elan ayb i osgoi cystadlu am ddigwyddiadau a gynhelir ar yr un diwrnod.
Bygis y Bannau
Arolwg teithio twristiaeth yw’r prosiect hwn i
weld pa mor ymarferol fyddai treialu, ac i oleuo dyluniad, bygis
(B-Bugs) awyr agored, hwyl i’w gyrru ac wedi eu pweru gan
drydan, a fyddai ar gael i’w llogi i ymwelwyr i Barc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dros yr haf 2011.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweithio i
ddod yn un o’r prif gyrchfannau eco-dwristiaeth. Yn anffodus,
mae 91% o’r ymwelwyr i’r Parc yn teithio yma mewn ceir
ar y funud ac mae’r ceir dan sylw’n aml yn geir teulu
mawr mwy drud-ar-garbon ac, yn gynyddol, yn gerbydau
῾gwersylla’.
Hyd yma prif ffocws y Parc Cenedlaethol yw gwella
opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol i ymwelwyr. Mae
cynlluniau o’r fath wedi gweithio’n dda i ymwelwyr
undydd yn enwedig. Ond mae angen rhoi sylw i ofynion ymwelwyr
arhosiad hir, yn enwedig rhai sy’n aros mewn tai
hunan-ddarpar ac sy’n gyrru cerbydau mwy drud-ar-garbon. Y
nod yw ymchwilio i ddarparu dull trafnidiaeth gyhoeddus wahanol
ochr yn ochr â’r drafnidiaeth gonfensiynol, pe byddai
modd denu rhai ymwelwyr i logi cerbyd trydan ysgafn, cyflymder isel
i’w cludo o gwmpas y parc yn ystod eu
arhosiad.
Mae’r opsiynau ar gyfer cerbydau trydan yn eithaf
prin: mae gwneuthurwyr ceir yn canolbwyntio ar ddatblygu ceir
trydan sy’n perfformio’n debyg (o ran cyflymder,
pellter, capasiti a chysur) i geir petrol neu ddisel modern.
Mae’r ceir cyntaf i ddod allan yn aruthrol o ddrud ac yn rhy
gymhleth i’r siwrneiau 5-10 milltir sy’n cyfrannu fwyaf
at filltiroedd blynyddol pobl. Ar hyn o bryd mae’r ceir
trydan rhataf yn y DU oddeutu £11-12k ac nid ydynt yn geir da
iawn. Mae canlyniadau rhagarweiniol prosiect ceir Ynni Gwyrdd
Talybont (sy’n defnyddio ceir trydan rhatach) yn awgrymu y
byddai car “pob dydd” rhatach ac ysgafnach yn llawer
gwell ar gyfer tripiau byr rhwng 10-20 milltir. Mae pobl yn
gwerthfawrogi’r siwrne ddistaw carbon isel ond hefyd yn
mwynhau profiad gyrru gwahanol mewn car sy’n edrych yn eithaf
ffynci!
Mae syniad y “Beacons Buggies” (B-Bug) yn
seiliedig ar opsiwn gwahanol i’r car trydan arferol. Mae
bygis petrol cyfreithlon ar y ffordd o gwmpas heddiw, ac yn costio
rhwng £3k - £5k. Nod y prosiect hwn yw ymchwilio i weld
a ellid datblygu fersiwn trydanol o un o’r bygis trydan
presennol hyn, am tua’r un pris. NI FYDDAI yn gar.
Byddai’n ddrafftiog ac yn wlyb ond byddai hefyd yn ffynci ac
yn hwyl i’w yrru ac yn costio tua thraean y gost o redeg y
car trydan rhataf ar y farchnad. Byddai ond angen ei addasu (e.e. i
gadw’r tywydd allan) pe bai rhywun am ei wneud yn fwy fel
car. Bydd y treial yn 2011 yn arbrawf i weld a fyddai cerbyd
o’r fath yn apelio at dwristiaid ac a fyddai’n
economaidd hyfyw.
Gallai bygi trydanol gynnig opsiwn trafnidiaeth
gynaliadwy arall i ymwelwyr, yn ogystal â’r potensial i
fod yn atyniad newydd i dwristiaid ynddo’i hun. Fodd bynnag,
cyn symud ymlaen ymhellach gydag unrhyw beilot ar gyfer y cerbyd
hwn, mae angen sefydlu pa ganran o siwrneiau mewn ceir a gyflawnir
gan ymwelwyr sy’n aros ym Mannau Brycheiniog sy’n llai
na 25-30 milltir y dydd. Os yw ymwelwyr i’r Parc yn aml yn
teithio mwy na 25-30 milltir y dydd yn eu ceir, yna ni fyddai pwynt
treialu’r syniad hwn. Mae’r un peth yn wir os ydynt yn
tueddu i ddod â beiciau, canŵs neu gyfarpar swmpus arall gyda
nhw ar eu tripiau undydd.
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.beaconsbuggy.wordpress.com