Cydnerthu Cymunedol
Mae’r thema hon yn anelu at gefnogi prosiectau arloesol sy’n gwella neu’n darparu gwasanaethau sylfaenol ychwanegol neu sy’n gwella amgylchedd ffisegol pentrefi. Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer gweithgareddau a allai gynnwys:
- Archwilio cymunedau sydd â diddordeb, gan benderfynu ar eu hanghenion a’u dyheadau
- Rhoi cefnogaeth ar gyfer creu adnoddau a datblygu sgiliau
- Cynlluniau peilot ar gyfer rhannu adnoddau cymunedol neu ddulliau newydd o gyflwyno gwasanaethau sylfaenol, fel defnyddio adeilad cymunedol fel ‘both’
- Datblygu dewisiadau cynaliadwy yn ymwneud â bwyd lleol, gan gynnwys defnydd tir cymunedol, cynhyrchu bwyd a dosbarthu bwyd
- Cefnogi cynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn â chynhyrchion a marchnadoedd lleol, gan ymgysylltu’n arbennig ag aelodau o’r gymuned wledig sydd ar y cyrion ac wedi eu hallgau
- Cefnogaeth ar gyfer cymwysiadau neu dechnolegau arloesol mewn cynhyrchu ynni gwyrdd a sefydlu safleoedd ymchwil



