Sut i wneud Cais
Er nad oes meini prawf
pendant y bydd angen i chi ei ddiwallu wrth asesu a yw eich syniad
yn ddyfeisgar, bydd gan bob prosiect ganllawiau penodol a ddynodir
gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cyn dechrau proses ymgeisio
ffurfiol, rydym yn gofyn i chi gysylltu â’r swyddog
prosiect perthnasol ar 01982 552224 i drafod eich syniad. Unwaith y
bydd Glasu a’r ymgeisydd posibl wedi cytuno ar gymhwyster
cyffredinol y syniad yn ogystal â chwmpas ac amlinelliad o
brosiect, bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i lenwi a chyflwyno
ffurflen gais.
Fel rhan o’r trafodaethau hynny gyda swyddogion prosiect,
dylid bod wedi cyflwyno amserlen ddynodedig i ymgeiswyr eisoes o
ran y broses ymgeisio. Gan ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd
yn y ffurflen gais a gan dynnu ar drafodaethau blaenorol a
phresennol gyda’r ymgeisydd, bydd y swyddogion prosiect wedi
hynny yn llunio pro-forma i’w gyflwyno i banel asesu nawdd
Glasu (Y Grwp Gweithredu Lleol neu GGLl). Mae ein GGLl yn cwrdd bob
chwarter i asesu unrhyw geisiadau am nawdd sydd werth dros
£5,000. Mewn rhai amgylchiadau, gellir asesu prosiectau sydd
â gwerth sy’n is na £5000 trwy broses gyflymach
sy’n cynnwys is-grŵp dynodedig o’r GGLl
llawn.